Mae bachgen 15 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl cael ei saethu tra’n reidio ei fotobeic.

Mae dyn 39 oed a bachgen 16 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol yn dilyn y digwyddiad yn Sunderland am 8.40yh nos Fercher.

Mae’r bachgen wedi’i gludo i ysbyty’r Royal Victoria Infirmary yn Newcastle, yn ôl Heddlu Northumbria.