Milwyr yn Afghanistan
Mae Theresa May yn bwriadu diogelu lluoedd arfog Prydain rhag cael eu herlyn mewn achosion sy’n codi mewn rhyfeloedd yn y dyfodol, drwy eithrio ei hun o rannau o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

O dan newidiadau a fydd yn cael eu cyhoeddi yng nghynhadledd y Ceidwadwyr ym Mirmingham, fe fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi ei bod yn eithrio ei hun o’r Confensiwn yn ystod cyfnodau o ryfel.

Daw’r penderfyniad ar ôl i rai milwyr yn rhyfeloedd Irac ac Afghanistan gael eu herlyn yn y llysoedd yn sgil honiadau o gam-drin carcharorion neu ymladdwyr mwy na degawd ers i’r gamdriniaeth honedig ddigwydd.

Dywed Theresa May y dylai’r camau hyn ddod a diwedd i achosion o’r fath gan ychwanegu y byddai’n arbed arian i’r trethdalwr. Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gwario mwy na £100 miliwn ar ymchwiliadau neu iawndal sy’n gysylltiedig ag Irac ers 2004.

Roedd y Prif Weinidog wedi codi pryderon ynglŷn â nifer cynyddol yr achosion oedd wedi cael eu hadrodd i’r tîm sy’n ymchwilio i honiadau hanesyddol yn Irac. Cafodd ei sefydlu ym mis Tachwedd 2010 i ymchwilio i honiadau bod milwyr gwledydd Prydain wedi llofruddio, cam-drin neu arteithio pobl Irac rhwng 2003 a 2009.