(llun: PA)
Ni fydd pobl â salwch hirdymor sy’n hawlio budd-daliadau anabledd yn gorfod cael eu hail-asesu bob chwe mis o hyn ymlaen.

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Damien Green y bydd y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn dal i gael ei dalu’n awtomatig i’r rheini sydd â chyflyrau iechyd difrifol heb ragolygon am wellâd.

Mae’r broses o brofi bob chwe mis wedi cael ei beirniadu’n hallt am yr effaith y mae’n ei chael ar rai o’r bobl waelaf a mwyaf anabl.

“Rhan allweddol o adeiladu gwlad sy’n gweithio i bawb yw sicrhau bod pawb sy’n gallu gweithio yn cael y cymorth a’r cyfle i wneud hynny,” meddai Damien Green.

“Ond mae hefyd yn golygu ein bod yn rhoi cymorth llawn ac addas i’r rheini na all weithio.

“Mae’n hynny’n cynnwys cael gwared ar unrhyw straen a biwrocratiaeth diangen – yn enwedig i’r rhai mwyaf bregus mewn cymdeithas.

“Os yw rhywun yn dioddef o salwch nad oes gwella arno, nid yw’n iawn gofyn iddyn nhw gael eu profi dro ar ôl tro. Felly fe fyddwn ni’n rhoi stop ar hyn.”