Ar ôl tair blynedd o drafod rhwng gwahanol garfannau llwyddwyd i osgoi helynt mewn gorymdaith ddadleuol gan yr Urdd Oren yn Belfast y bore yma.

Fe fu dros 600 o blismyn Heddlu Gogledd Iwerddon ar ddyletswydd yn cadw trefn ar y digwyddiad.

Yn dilyn cytundeb rhwng yr Urdd Oren a chymdeithas trigolion Crumlin Ardoyne, cafodd gorymdeithwyr o dair cyfrinfa a dau fand gwblhau rhan olaf dathliadau deuddegfed o Orffennaf 2013 yno.

Y cytundeb oedd nad oeddent i ganu dim byd ond emynau wrth groesi ardal yr Ardoyne, ac y byddai cyfyngiadau ar y baneri ar yr orymdaith.

Cytundeb parhaol

Yn dilyn llwyddiant heddiw, fe fydd fforwm cymunedol lleol yn cael ei sefydlu, gyda chefnogaeth Sinn Fein a thrigolion lleol a’r Urddau Oren gyda’r nod o ffurfio cytundeb parhaol ar orymdeithiau yn yr ardal.

Dywedodd Gerry Kelly, un o aelodau Sinn Fein o Gynulliad Gogledd Iwerddon, ei fod yn falch o weld yr awyrgylch heddychlon y bore yma.

“Dw i’n hyderus bod ewyllys ar y ddwy ochr i wneud i’r cytundeb weithio,” meddai.

“Dw i’n meddwl fod cyfnod newydd yn gwawrio yn yr ardal a fydd yn rhoi gobaith i ardaloedd eraill.”

Er hyn, fe fu carfan fach o brotestwyr gweriniaethol yn cyhuddo Gerry Kelly o fod yn “fradwr” am gyfaddawdu gyda’r Urddau Oren.