Mae nifer y gyrwyr a gafodd ddamwain ar y ffordd a methu prawf yfed a gyrru wedi codi am y tro cyntaf mewn 10 mlynedd.
Fe fethodd 3,450 o fodurwyr y prawf yn 2015, o gymharu â 3,227 yn 2014. Bu’r nifer yn lleihau bob blwyddyn ers i 6,397 gael eu dal yn 2005.
Mae’r elusen Brake, sy’n ymgyrchu i ddiogelu’r ffyrdd, wedi galw am gosbi “priodol” er mwyn lleihau’r nifer sy’n yfed a gyrru.
“Mae’n siomedig gweld y cynnydd hwn yn nifer y gyrwyr sy’n methu prawf anadl wrth fod y tu ôl i’r olwyn,” meddai Lucy Amos, llefarydd ar ran Brake.
“Mae unrhyw swm o alcohol, hyd yn oed symiau sydd yn is na’r terfyn yfed a gyrru, yn codi’r tebygolrwydd o yrrwr yn cael gwrthdrawiad angheuol.
“Mae angen gorfodi effeithiol a chosbau priodol i sicrhau bod pobol yn disgwyl y byddan nhw’n cael eu dal ac yn cael eu cosbi pan fyddan nhw’n gyrru [ar ôl yfed] dros y terfyn.”
Ym mis Rhagfyr 2014, fe wnaeth Llywodraeth yr Alban leihau’r lefel gyfreithiol o yfed a gyrru o 80mg i 50mg fesul 100ml o waed. Mae’r lefel gyfreithiol yn dal i fod 80mg yng Nghymru a Lloegr.
Swm diogel = “dim”
Yn ôl Brake, mae angen newid y diwylliant ynghylch yfed a gyrru ac mae’r “unig swm diogel o alcohol wrth yrru yw dim”.
Roedd data’r Adran Drafnidiaeth hefyd yn dangos nad oes gostyngiad wedi bod yn nifer y bobol sy’n cael eu lladd ar y ffyrdd ers 2011.
Ledled Prydain, cafodd 1,730 o bobol eu lladd mewn gwrthdrawiadau yn 2015.
Dywedodd swyddogion y llywodraeth fod yr adran yn gweithio gyda grwpiau diogelwch ar “gynigion synnwyr cyffredin”, sy’n cydbwyso cosbau llymach gyda chymorth i bobol aros yn ddiogel.