Mae pennaeth Heddlu Llundain, Syr Bernard Hogan-Howe, wedi gwadu adroddiadau ei fod yn camu o’r neilltu am ei fod yn ofni na fyddai Maer Llafur newydd dinas Llundain, Sadiq Khan, yn ei ail-benodi.

Mae hefyd yn gwadu fod a wnelo ei ymddeoliad unrhyw beth ag ofnau y gallai adroddiad i’r modd y deliodd y Met gyda honiadau o gam-drin rhywiol hanesyddol.

Fe gyhoeddodd heddwas mwya’ blaenllaw gwledydd Prydain heddiw y bydd yn ymddeol ym mis Chwefror y flwyddyn nesa’, saith mis cyn i’w gytundeb ddod i ben.

Roedd eisoes wedi gwneud ei fwriad yn glir i’r Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd, yn gynharach yr wythnos hon.

Perthynas “ardderchog”

Wrth wneud ei gyhoeddiad heddiw, mae Syr Bernard yn dweud fod gan Faer Llundain, Sadiq Khan, ac yntau “berthynas ardderchog”, ac mae wedi gwadu ei fod wedi dewis mynd yn gynnar rhag ofn iddo beidio â chael ei ail apwyntio.

“Roedd gen i berthynas grêt gyda Boris (Johnson), gyda’r dirprwy faer, a pherthynas dda nawr gyda Sadiq,” meddai.

“Wrth gwrs, maen nhw’n bobol wahanol iawn, o bleidiau gwleidyddol gwahanol, ond dw i wedi gweithio gyda phobol o bob cwr o gymdeithas a phleidiau gwahanol dros y 15 mlynedd diwetha’… a dw i bob amser wedi dod ymlaen yn dda â phawb.

“Does gen i ddim ofn y byddai Mr Khan yn dewis peidio fy ail apwyntio,” meddai wedyn. “Mi fyddwn i wedi mynd yn ystod y ddwy flynedd nesa’, beth bynnag.”