Ben Emmerson QC (Llun: Wikipedia)
Mae uwch gyfreithiwr yr ymchwiliad i mewn i gam-drin plant yng ngwledydd Prydain, wedi dweud ei fod wedi darganfod ei fod wedi cael ei wahardd dros dro o’r ymchwiliad ar ôl darllen adroddiadau newyddion ar y rhyngrwyd.

Mewn ergyd newydd i hygrededd yr ymchwiliad, mae Ben Emmerson QC yn dweud nad yw’n gwybod pam ei fod wedi cael ei wahardd.

Mae’r ymchwiliad gwerth £100 miliwn wedi cael nifer o broblemau ers ei sefydlu 2014 gan yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, Theresa May, ac mae eisoes ar ei bedwerydd cadeirydd.

Pryder

Mae llefarydd ar ran yr ymchwiliad yn dweud i Ben Emmerson gael ei wahardd o’i swydd am fod yr ymchwiliad wedi bod “yn bryderus iawn” am agweddau o’i arweinyddiaeth yn ddiweddar.

Mae Ben Emmerson wedi cael ei “wahardd dros dro o’i ddyletswyddau fel y gellir eu hymchwilio’n briodol”, ychwanegodd y llefarydd.

Mae cyfreithwyr ar ran Ben Emmerson yn dweud y bydd yntau’n ymateb unwaith y mae’n gwybod beth yw’r honiadau yn ei erbyn.

Mae gan yr Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd, “hyder llawn” yn yr ymchwiliad o hyd, meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref.

Rhoi’r gorau iddi?

Roedd adroddiadau wedi awgrymu y gallai Ben Emerson fod yn paratoi i roi’r gorau iddi ar ôl gwrthdaro gyda pennaeth newydd yr ymchwiliad, Alexis Jay.

Cymerodd Alexis Jay yr awennau fis diwethaf ar ôl ymddiswyddiad sydyn y cyn gadeirydd, y Fonesig Lowell Goddard, a nododd “etifeddiaeth o fethiant” fel un o’i rhesymau dros roi’r gorau iddi.

Fe wnaeth y Farwnes Butler-Sloss ymddiswyddo fel cadeirydd yn 2014 gan ddweud nad hi oedd y “person cywir ar gyfer y swydd” oherwydd mai ei brawd, Syr Michael Havers, oedd y twrnai cyffredinol yn ystod cyfnod rhai o’r honiadau sy’n cael eu ystyried yn yr ymchwiliad.