Mae dyn 55 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gyflawni troseddau rhyw ar blant mewn eglwys ar ddechrau’r 1980au.

Cafodd ei arestio ddydd Mawrth ar amheuaeth o ymosod yn rhywiol ar fachgen rhwng naw ac 11 oed yng Ngorllewin Swydd Sussex rhwng 1981 a 1983.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth tan Tachwedd 28, wrth i’r ymchwiliad barhau i ragor o droseddau. Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.