Atyniad y Smiler Llun: PA
Mae Merlin Attractions, perchnogion Alton Towers, wedi cael dirwy o £5 miliwn ar ôl cyfaddef  torri rheolau iechyd a diogelwch yn dilyn damwain ar yr atyniad y Smiler.

Cafodd pump o bobol anafiadau a oedd “wedi newid eu bywydau yn y modd mwyaf dramatig” meddai’r barnwr.

Yn eu plith roedd Vicky Balch, oedd yn 19 ar y pryd, a Leah Washington oedd yn 17, ill dwy wedi colli coes.

Clywodd Llys y Goron Stafford fod y teithwyr wedi gwylio “mewn arswyd” wrth sylweddoli fod eu cerbyd am wrthdaro â cherbyd gwag arall.

Cafodd Merlin Attractions y ddirwy ar ôl i’r llys glywed bod peiriannydd yn teimlo “dan bwysau” i ail-ddechrau’r Smiler ar ôl i nam gael ei ddarganfod ychydig cyn y ddamwain.

‘Methiant trychinebus’

Dywedodd y barnwr Michael Chambers QC bod y ddamwain yn “fethiant trychinebus” gan y cwmni yn ymwneud a mesurau iechyd a diogelwch sylfaenol.

Ychwanegodd y gallai’r ddamwain fod “wedi’i hosgoi yn hawdd”.

Dywedodd bargyfreithiwr ar ran y cwmni, Simon Antrobus, wrth y llys fod y cwmni bellach yn derbyn bod camgymeriadau wedi cael eu gwneud gan unigolion, ond mai Merlin Attractions oedd ar fai.

Clywodd y llys fod Alton Towers wedi cwblhau 30 o newidiadau i wella diogelwch ar yr atyniad ers y ddamwain a’u bod wedi gweld gostyngiad o £14 miliwn yn eu refeniw ers hynny.

Pan ofynnodd y barnwr a oedd unrhyw un wedi ymddiswyddo oherwydd y methiannau a arweiniodd at y ddamwain, dywedodd Simon Antrobus nad oedd unrhyw un wedi gwneud hynny.