Llun: PA
Yn eu cynhadledd flynyddol yn Lerpwl, mae’r blaid Lafur wedi addo sicrhau “cyflog byw go iawn” o fwy na £10 yr awr petaen nhw’n ffurfio’r Llywodraeth nesaf.

Dywedodd canghellor yr wrthblaid, John McDonnell, y byddai’r Blaid Lafur yn ffurfio corff adolygu ar y cyflog byw, “gyda’r dasg o’i osod ar y lefel sydd ei angen ar gyfer bywyd gweddus,” meddai.

“Mae rhagolygon annibynnol yn awgrymu y bydd hyn yn fwy na £10 yr awr,” meddai wedyn.

‘Yn dda i fusnes’

Ar hyn o bryd, £7.20 yr awr yw’r isafswm cyflog byw, ac mae bwriad gan y Ceidwadwyr i’w godi i £9 yr awr erbyn 2020.

“Mae cyflog dda nid yn unig yn sylfaenol, ond mae hefyd yn dda i fusnes, yn dda i weithwyr, ac yn dda i Brydain,” meddai John McDonnell.

Dywedodd y byddai’r Blaid Lafur yn defnyddio £250miliwn o fanc fuddsoddi i gefnogi diwydiant ym Mhrydain a chreu “dadeni gweithgynhyrchu” ar gyfer y cyfnod pan fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Pynciau eraill

Ymysg trafodaethau eraill y gynhadledd mae safle’r blaid o ran ffracio.

Mae’r blaid hefyd wedi cyhoeddi y byddant yn addo biliynau o bunnau i gefnogi ardaloedd difreintiedig fydd yn cael llai o arian gan Ewrop yn sgil pleidlais Brexit, gyda Chymru i elwa fwyaf o’r cyllid.

 

Mae disgwyl i’r gynhadledd barhau tan ddydd Mercher, Medi 28.