Y difrod yn ninas Aleppo Llun: PA
Mae’r rhwyg rhwng y Gorllewin a Rwsia wedi dwysau yn dilyn gwrthdaro yn y Cenhedloedd Unedig dros y methiant i atal y brwydro ffyrnig yn Syria.

Roedd llysgennad Prydain Matthew Rycroft wedi ymuno a llysgennad yr Unol Daleithiau a Ffrainc drwy gerdded allan o sesiwn brys Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ddydd Sul. Maen nhw’n gwrthwynebu ymdrechion diweddaraf Llywodraeth Syria i ail-feddiannu dinas Aleppo.

Yn gynharach roedd gweinidog tramor Rwsia wedi taro nôl ar ôl i Ysgrifennydd Tramor Prydain, Boris Johnson rybuddio y byddai Moscow yn euog o gyflawni troseddau rhyfel petai ei hawyrennau rhyfel yn targedu pobl gyffredin yn fwriadol.

Dywedodd Matthew Rycroft wrth gyfarfod y cyngor diogelwch yn Efrog Newydd ei fod yn “anodd gwadu” bod llywodraeth yr Arlywydd Bashar Assad a’i gynghreiriaid yn Rwsia yn cyflawni troseddau rhyfel.

Roedd Assad a Rwsia wedi “plymio i ddyfnderoedd newydd” gan greu “uffern newydd yn Aleppo” meddai Matthew Rycroft.

Mae llysgennad arbennig y Cenhedloedd Unedig yn Syria, Staffan de Mistura, wedi dweud bod yr ymgyrch ddiweddara i ail-feddiannu’r ddinas wedi arwain at “drais milwrol digynsail” yn erbyn y trigolion, gan ladd o leiaf 213 o bobl gyffredin, nifer ohonyn nhw yn ferched a phlant.

Mae llysgennad Rwsia Vitaly Churkin yn mynnu bod y cyrchoedd awyr wedi’u targedu at “frawychwyr” sy’n cadw 200,000 o bobl yn gaeth yn y ddinas.

Yn gynharach roedd Boris Johnson wedi galw am ymchwiliad i ystyried a oedd lluoedd Rwsia wedi cyflawni troseddau rhyfel.