Fe fydd y cyhoedd yn cael dewis pa gymeriad fydd yn ymddangos mewn cerflun o’r diweddar Victoria Wood yn ei bro enedigol.

Fe fydd y cerflun maint llawn yn cael ei osod yng nghanol tref Bury yn Swydd Gaerhirfryn er cof am y ddigrifwraig fu farw’n 62 oed ym mis Ebrill.

Y cymeriadau sydd wedi cael eu cynnig yw Brenda o ‘Dinnerladies’ a ‘Kimberly’s Friend’, un o’i sgetsys enwocaf.

Bydd pleidlais yn cael ei chynnal ar y we.

Dywedodd ei brawd Foote nad oedd modd cynnwys piano gan y byddai’n rhy gostus.

Y nod yw codi £20,000 – ac mae £18,000 wedi cael ei godi eisoes, gan gynnwys £1,000 gan Judi Dench.

Mae Cyngor Bury wedi rhoi’r safle yng ngerddi llyfrgell Bury i’r teulu ar gyfer y gofeb, fydd yn cael ei chwblhau erbyn haf nesaf.

Dywedodd arweinydd Cyngor Bury, Rishi Shori: “Rwy’n falch iawn bod Cyngor Bury wedi gallu cefnogi’r prosiect hwn.

“Mae Victoria Wood yn un o ferched enwoca’r fro ac mae hi’n addas felly fod teyrnged barhaol iddi yn ei thref ei hun.”

Bydd y bleidlais yn agor ddydd Mawrth ac yn cau ar Hydref 17.