Mae Jeremy Corbyn wedi’i ail-ethol yn arweinydd y Blaid Lafur, ac mae’r canlyniad wedi’i gyhoeddi yng nghynhadledd y blaid yn Lerpwl.

Fe lwyddodd Jeremy Corbyn i ennill 61.8% o’r bleidlais, o gymharu â 38.2% i Owen Smith.

Ac er mwyn dathlu, mae cefnogwyr tîm pêl-droed Lerpwl yn bwriadu taenu baner â llun yr arweinydd tros stand y Kop ar faes Anfield heddiw.

Ond mae Jeremy Corbyn, wrth annerch cynadleddwyr wedi cyhoeddi canlyniad y bleidlais, wedi galw ar i’w blaid “llnau’r llechen yn lân” ac uno.