Mae bachgen 13 oed wedi marw yn dilyn damwain gyda char nad oedd neb ar ei gyfyl.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Macclesfield yn Swydd Caer toc cyn 9yh nos Fawrth, cyn i’r bachgen yn ei arddegau gael ei gyhoeddi’n farw.

Dydi’r heddlu ddim yn chwilio am neb arall mewn cysylltiad gyda’r ddamwain, a’r gred ydi fod y car wedi mynd dros y bachgen.

Fe gafodd parafeddygon eu galw i’r fan, ond mi fethon nhw ag achub bywyd y bachgen 13 oed.