(Llun: Cyfrif Twitter Swyddogol Game of Thrones)
Mae Game Of Thrones wedi cael llwyddiant ysgubol yn noson wobrwyo’r Emmy’s yn Los Angeles.

Roedd y gyfres ffantasi wedi cipio’r wobr am y gyfres ddrama orau yn ogystal â gwobrau am ysgrifennu a chyfarwyddo.

Mae’r gyfres, sy’n seiliedig ar nofelau George RR Martin, wedi ennill 38 o wobrau Emmy hyd yn hyn, gan guro Frasier a gipiodd record o 37.

Roedd ’na wobrau hefyd i’r Fonesig Maggie Smith am ei rôl yn Downton Abbey; y digrifwr John Oliver am ei sioe Last Week Tonight, a drama’r BBC Sherlock, The Abominable Bride.