Mae dynes 100 oed wedi diodde’ ymosodiad cïaidd o flaen ei chartre’ yn Llundain, a hithau’n dychwelyd o gyfarfod gweddi.

Fe gafodd y wraig fach eiddil ei gwthio i’r llawr, ac fe gafodd ei bag llaw – a oedd yn cynnwys rhwng £250 a £300 mewn arian parod – ei ddwyn yng ngolau dydd yn Tottenham, gogledd Llundain.

Roedd yr ymosodwr wedi dweud ei fod yno i wneud gwaith trydanol, ond roedd hi wedi cwestiynu hynny.

Roedd ei wyr gartre’ ar y pryd, ac fe redodd ar ol yr ymosodwr, ond fe fethod â dal i fyny ag o.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad am 5yp, ac mae’r ymosodwr wedi’i ddisgrifio fel dyn croenwyn tua 35 oed.