Mae adran Brexit newydd llywodraeth Theresa May yn San Steffan wedi gwario degau o filoedd o bunnoedd ar gyngor cyfreithiol yn ystod yr wyth wythnos ers ei chreu, yn ôl ffigyrau sydd wedi’u cyhoeddi heddiw.

Dyw’r trafodaethau swyddogol i adael Ewrop ddim wedi dechrau’n ffurfiol, ond mae Prif Weinidog Prydain a’r Gweinidog Brexit, David Davis, yn dod dan y lach am wrthod adrodd yn ôl ar y broses.

Ond mae’r Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd newydd gyhoeddi ei bod wedi gwario oddeutu £268,711 – sy’n gweithio allan yn £33,500 ar gyfartaledd.

Mae gweision sifil yn dal i drio gweithio allan faint yn union o arian y trethdalwyr fydd angen ei wario dros y flwyddyn nsea’ er mwyn rhoi Erthygl 50 Cytundeb Lisbon ar waith, cyn bydd hynny wedyn yn cychwyn y broses ddwy flynedd o drafod gadael yr Undeb.

“Hyd yma, mae’r adran wedi gwario cyfanswm o £256,000 ar gostau cyfreithiol ar y mater, ynghyd â £12,711 ymchwanegol o gostau a biliau,” meddai’r Gweinidog Brexit, David Jones, mewn llythyr yn ateb cwestiwn seneddol yr Aelod Seneddol, Nick Clegg.