Dywed cyn-ysgrifennydd Gogledd Iwerddon ei bod yn  ‘hanfodol’ fod y ffin â’r Weriniaeth yn aros yn agored.

Yn sgil y bleidlais Brexit, mae pryderon y gallai’r ffin ddatblygu i fod yn ffin ‘galed’ rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd er mwyn rheoli mewnfudo.

Ond yn ôl Theresa Villiers, ymgyrchydd blaenllaw dros Brexit a wrthododd gynnig am swydd arall yn llywodraeth Theresa May, mae mesurau eraill y gellir eu cymryd i rwystro mewnfudo anghyfreithlon.

“Os yw’r ddwy wlad yn benderfynol o gadw’r ffin yn agored, dw i’n meddwl fod siawns resymol o allu gwneud hynny,” meddai AS Chipping Barnet.

“Y ffordd orau o orfodi rheolau mewnfudo yw nid gwiriadau ar y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth, oherwydd does neb ar y naill ochr na’r llall o’r ffin eisiau ffin galed eto.

“Mae digon o fecanweithiau cyfreithiol eraill y gallwn eu defnyddio i ymdrin â mewnfudo anghyfreithlon gan y byddai mewnfudwyr yn troseddu petaen nhw’n gweithio heb ganiatâd priodol.”