Arweinwyr newydd y Blaid Werdd: Jonathan Bartley a Caroline Lucas (llun: y Blaid Werdd)
Mae aelodau’r Blaid Werdd wedi ethol Caroline Lucas a Jonathan Bartley fel arweinwyr ar y cyd i olynu Natalie Bennet.

Roedd y ddau wedi sefyll fel tocyn ar y cyd, gan ennill 88% o’r pleidleisiau a gafodd eu bwrw.

Yn dilyn eu buddugoliaeth, fe fu’r ddau gyd-arweinydd yn annerch aelodau yng nghynhadledd y Blaid Werdd yn Birmingham ddoe.

“Rydym yn hynod o falch o fod yr arweinwyr cyntaf o unrhyw blaid wleidyddol yn y wlad yma i rannu swydd, gan ddangos gwerth gweithio gyda’n gilydd a phwysigrwydd taro cydbwysedd iach rhwng gwaith, teulu ac ymrwymiadau eraill,” meddai Jonathan Bartley.

“Rydym yn sefyll yma yn fwy unedig gyda dau arweinydd gan y mae pleidiau eraill gydag un.”

Yn ei haraith hi, galwodd Caroline Lucas, AS Brighton Pavilion, am ail refferendwm ar unrhyw gytundeb rhwng Llywodraeth Prydain a’r Undeb Ewropeaidd.

“Allwn ni ddim derbyn cytundeb nad yw’n cynnig gobaith a sicrwydd i’r rheini a bleidleisiodd i Adael yn ogystal â’r rheini a bleidleisiodd i Aros,” meddai.