Mae’r heddlu’n ymchwilio i  ymgais honedig i gipio merch naw mlwydd oed.

Dywedodd Heddlu Gorllewin Mercia bod y plentyn yn cerdded ar hyd Staddlestone Circle, Gate Saxon, yn Henffordd, tua 8yh nos Fercher pan ddaeth dyn ati o’r tu ôl.

Llwyddodd y ferch i ddianc yn ddianaf ac mae’r heddlu wedi cau’r ardal wrth i’r ymchwiliad gael ei gynnal.

Mae’r heddlu’n credu bod y dyn wedi dianc mewn fan i gyfeiriad Ffordd Ross gyda dyn arall.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Martin Taylor: “Yn gyntaf, rwyf am sicrhau’r gymuned leol bod digwyddiadau o’r math hwn yn eithriadol o brin, diolch byth, ac mae ymchwiliad cadarn wedi ei lansio.

“Er bod hyn, yn ddealladwy, yn destun pryder, credir ar hyn o bryd ei fod yn ddigwyddiad ynysig ac nad oed unrhyw fygythiad i’r gymuned ehangach.”

Mae swyddogion yn awyddus i siarad â dau ddyn. Mae un ohonynt yn cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn gyda phen moel ac yn ei 30au. Credir ei fod yn gwisgo crys-T; siaced goch, gwyn a du, a jîns glas.

Credir bod yr ail ddyn yn ddu, gyda gwallt plethedig a llygaid brown. Credir ei fod o gwmpas chwe throedfedd o daldra ac yn gwisgo crys-T gwyn,  siaced denim, jîns lliw tywyll ac esgidiau brown.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.