Llun: PA
Roedd y ddadl o amgylch refferendwm yr UE yn llawn “diffygion democrataidd amlwg” gyda phleidleiswyr yn teimlo’n “anwybodus” ac wedi eu dieithrio.

Dyna farn adroddiad newydd gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol (ERS) sydd hefyd yn dweud bod angen “adolygiad trwyadl” o sut fydd refferenda’r dyfodol yn cael eu cynnal.

Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod pleidleiswyr yn teimlo bod dwy ochr y ddadl wedi troi’n fwyfwy negyddol wrth i’r ymgyrch fynd yn ei blaen a bod llawer o ffigurau gwleidyddol amlwg, gan gynnwys y Prif Weinidog David Cameron, wedi bod yn fwy o rwystr nag o help.

Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi yn fuan wedi i’r Prif Weinidog Theresa May addo unwaith eto bod “Brexit yn golygu Brexit” wrth i’w Chabinet ddechrau cynllunio ar gyfer gadael yr UE.

Dywedodd Katie Ghose, prif weithredwr y ERS bod yr adroddiad yn dangos “heb rithyn o amheuaeth” pa mor “ofnadwy” oedd dadl refferendwm UE.

Refferendwm annibyniaeth yr Alban

Meddai fod yr ymgyrch yn wrthgyferbyniad llwyr i’r ddadl “fywiog” a “gwybodus” a ddigwyddodd yn sgil pleidlais annibyniaeth i’r Alban a oedd wedi  gadael “etifeddiaeth barhaol o gyfranogiad parhaus y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus”.

Ychwanegodd fod yr ymgyrch yn rhy fyr i feithrin dadl briodol a bod honiadau camarweiniol yn cael eu hadrodd yn “ddi-gosb.”

Casgliadau

Mae’r ERS nawr yn galw am adolygiad i sicrhau nad yw refferenda’r dyfodol yn ailadrodd yr un camgymeriadau.

Mae’n gwneud naw argymhelliad, gan gynnwys creu corff cyhoeddus swyddogol i ymyrryd pan fydd honiadau camarweiniol yn cael eu gwneud gan yr ymgyrchoedd a gofyn i Ofcom gynnal adolygiad i rôl briodol i ddarlledwyr i’w chwarae mewn refferenda.

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa’r Cabinet bod pobl Prydain wedi lleisio’u barn yn bendant yn y refferendwm ac y bydd y Llywodraeth yn cyflawni penderfyniad y bobl.