Awyren United Airlines Llun: United Airlines
Mae hyd at 16 o bobol wedi cael triniaeth yn yr ysbyty ar ol tyrfedd yn ystod taith awyren rhwng Texas a Llundain.

Cafodd yr awyren ei dargyfeirio i faes awyr Shannon yn dilyn y digwyddiad am oddeutu 3 o’r gloch y bore ma.

Ond roedd yr awyren yn dal yn yr awyr am ddwy awr a hanner wedi hynny.

Mae’r cwmni awyr United Airlines, o’r Unol Daleithiau’n cynnig gofal a chefnogaeth i’r teithwyr, a chafodd 10 o gwsmeriaid a dau aelod o’r criw eu cludo i’r ysbyty yn Limerick.

Mae un ohonyn nhw’n dal yn yr ysbyty’n derbyn triniaeth.

Roedd 207 o deithwyr a 13 o aelodau o’r criw ar yr awyren, gan gynnwys tri pheilot, a chafodd tri o blant eu hanafu.

Cafodd awyren arall ei hanfon i gwblhau’r daith.

Mae ymchwiliad ar y gweill yn Iwerddon.