Mae ffigurau newydd sy’n cael eu cyhoeddi heddiw yn dangos nad oes newid sylweddol wedi bod yn nhueddiadau siopwyr Prydain o ran gwario ac arbed ers pleidlais Brexit.

Ac mae’r arolwg gan y cwmni ymchwil marchnad GfK yn nodi bod y Mynegai Hyder Prynwyr y mis hwn wedi cynyddu pum pwynt i ddiffyg saith.

Er hyn, mae ffigurau mis Awst yn wahanol iawn i ffigurau’r arolwg ym mis Gorffennaf a welodd y cwymp mwyaf sydyn o ran hyder y cyhoedd i wario mewn mwy na 26 mlynedd.

“Fe wnaethon ni weld ychydig o adferiad yn y mynegai’r mis hwn wrth i brynwyr gymryd agwedd o aros a gweld yn dilyn canlyniad Brexit, a chyn i’r Deyrnas Unedig adael,” meddai Joe Staton, pennaeth dynameg y farchnad i GfK.

Esboniodd fod yr hyder yn deillio o gyfuniad o gyfraddau llog isel, prisiau’n gostwng a bod lefel cyflogaeth yn parhau’n uchel.

“Mae’n amlwg ein bod ym Mhrydain yn benderfynol o barhau i siopa am heddiw yn hytrach nag arbed at yfory,” meddai wedyn.