Theresa May Llun; Hannah McKay/PA Wire
Fe fydd Theresa May yn cwrdd â gweinidogion ei Chabinet heddiw ac mae disgwyl i Brexit fod ar frig yr agenda.

Fe fydd y cyfarfod Cabinet yn cael ei gynnal yng nghartref gwledig y Prif Weinidog Chequers  i drafod y cynlluniau ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE).

Mae Theresa May wedi gofyn i’r gweinidogion amlinellu beth fydd y cyfleoedd a fydd yn cael eu creu yn eu hadrannau o adael yr UE.

Tanio Cymal 50

Mae’n ymddangos na fydd y Prif Weinidog yn ceisio cael cymeradwyaeth y Senedd cyn tanio Cymal 50, a fydd yn dechrau’r broses ddwy flynedd o drafodaethau rhwng y DU a’r UE ynglŷn â thelerau gadael yr Undeb.

Mae Downing Street wedi dweud y bydd Aelodau Seneddol yn cael “dweud eu dweud” ynglŷn â’r broses o adael yr UE.

Ond fe wrthododd llefarydd gadarnhau a fydd y Senedd yn cael pleidleisio ynglŷn â thanio Cymal 50.

Mae Rhif 10 y mynnu nad oes rhaid i Theresa May ymgynghori gyda’r Senedd cyn dechrau’r broses.

Mae Downing Street hefyd wedi cadarnhau na fydd y Prif Weinidog yn cynnal ail refferendwm nac etholiad cyffredinol cynnar.

‘Gwrthdaro’

Mae disgwyl i Theresa May ddefnyddio cyfarfod y Cabinet i gymharu undod y Blaid Geidwadol gyda’r rhwygiadau o fewn y Blaid Lafur, er gwaethaf adroddiadau am wrthdaro rhwng y gweinidogion sy’n gyfrifol am brif adrannau Brexit, sef Boris Johnson, Liam Fox a David Davis.

Fe fydd dyfodol y DU y tu allan i’r UE yn cael y prif sylw yn ystod wythnos gyntaf y Prif Weinidog yn ôl yn ei swydd ar ôl gwyliau’r haf, cyn iddi deithio i uwchgynhadledd y G20 yn China dros y penwythnos. Mae disgwyl iddi ddefnyddio’r daith i dynnu sylw arweinwyr byd eraill at gyfleoedd yn sgil Brexit.