Mochyn daear
Mae saith ardal yn Lloegr wedi cael trwyddedau newydd i ddifa moch daear yn dilyn ymgais y Llywodraeth i fynd i’r afael â’r diciâu mewn gwartheg.

Mae’r ardaloedd newydd yn cynnwys rhannau o Swydd Henffordd, Swydd Gaerloyw, Cernyw, Dyfnaint a Dorset.

Mae hyn yn rhan o strategaeth 25 mlynedd y Llywodraeth i fynd i’r afael â’r diciâu, ac mae trwyddedau difa eisoes wedi bod mewn grym mewn rhannau o Swydd Gaerloyw, Gwlad yr Haf a Dorset.

‘Cynllun dadleuol’

Yn ôl y Llywodraeth, bwriad y trwyddedau ydy gwaredu â 70% o foch daear mewn ardal benodol er mwyn gwaredu â’r clefyd sy’n costio mwy na £100 miliwn i drethdalwyr bob blwyddyn.

Dywedodd y Gweinidog Amaeth George Eustice, “Mae’r cyngor milfeddygol a phrofiad gwledydd eraill yn glir – allwn ni ddim gwaredu â’r clefyd oni bai ein bod yn mynd i’r afael â chronfa’r clefyd ymysg y boblogaeth o foch daear ynghyd â gwartheg.”

Er hyn, mae’r cynllun yn un dadleuol gyda Chris Pitt, dirprwy gyfarwyddwr ymgyrchoedd League Against Cruel Sports yn dweud, “Dylem edrych ar Gymru fel enghraifft lle nad oes difa ond yn hytrach mesurau profi cryf o TB, rheolaeth lem o ran symud gwartheg a bioddiogelwch cryf sy’n llwyddiannus wrth atal lledaeniad TB.”

Cymru

Yn gynharach y mis hwn, fe wnaeth Llywydd NFU Cymru bwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n bendant i waredu â’r diciâu mewn gwartheg.

Mynegodd Stephen James bryder ynglŷn â’r prosiect o frechu moch daear mewn ardal o driniaeth ddwys a gafodd ei atal ym mis Rhagfyr oherwydd prinder byd-eang o’r brechlyn BCG.

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn awyddus i ystyried opsiynau newydd ar gyfer cynllun i fynd i’r afael â’r diciâu yng Nghymru.

“Dros yr wythnosau nesaf, bydd Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn ystyried opsiynau wedi’u hadnewyddu ar gyfer cynllun TB yng Nghymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Fel rhan o hynny, bydd yn ystyried mater o fywyd gwyllt ochr yn ochr â gwartheg a mesurau bioddiogelwch,” meddai wedyn.