Mae cwmni Apple yn wynebu bil treth gwerth biliynau o ewros yn dilyn ymchwiliad yr Undeb Ewropeaidd (UE) i’r cymorth a gafodd gan Lywodraeth Iwerddon.
Mae’r ymchwiliad tair blynedd o hyd yn canolbwyntio ar strwythurau treth y cawr o gwmni, a’r “bargenion” treth â’r llywodraeth, sy’n mynd yn ôl mor bell ag 1991.
Yn 2014, fe wnaeth Brwsel rybuddio Llywodraeth Iwerddon fod yna amheuon ynglyn a chysondeb y trefniadau â rheolau mewnol marchnad yr UE.
Yn ôl y Comisiwn Ewropeaidd, roedd yn pryderu dros tan-gyfrifo elw trethadwy cynnyrch Apple fel iPhone ac iPad, gan greu mantais annheg.
Does dim disgwyl i’r Comisiynydd a arweiniodd yr ymchwiliad, Margrethe Vestager, nodi union gost y trethi heb eu talu ond mae disgwyl iddi ddatgan ei chanfyddiadau a’r broses dros gyfrifo’r bil hwnnw.
Apelio’r dyfarniad
Waeth beth fydd y penderfyniad, mae disgwyl i Apple a Llywodraeth Iwerddon ei herio yn llysoedd Ewrop.
Mae gan Apple safle yn Iwerddon ers 1980 ac mae’n cyflogi tua 5,500 o bobol yn y wlad, gyda’r nifer fwyaf yn ninas Cork.
Mae’r achos yn ystyried y fantais dreth a gafodd Apple gan y llywodraeth, nad oedd ar gael i gwmnïau eraill.
Mae Apple a Llywodraeth Iwerddon yn gwadu torri unrhyw reolau.
Daw’r dyfarniad wythnos yn unig cyn i Apple lansio ei ddyfeisiau diweddaraf, y iPhone 7 a fersiwn newydd o’r Apple Watch.
Targedu Starbucks a Fiat
Mae ymchwiliadau swyddfa’r Comisiynydd Margrethe Vestager wedi targedu cwmnïau Starbucks a Fiat hefyd, gyda’r ddau yn apelio yn erbyn y dyfarniadau yn eu gorchymyn i dalu trethi yn ôl i’r Iseldiroedd a Lwcsembwrg.
Mae Adran Gyllid Iwerddon wedi gwrthod ymateb cyn cyhoeddiad y Comisiynydd.