Ceiswyr lloches yn ceisio dringo ar lori yn Calais, Llun: PA
Fe fydd yr Ysgrifennydd Cartref yn teithio i Baris heddiw i drafod pryderon am ddiogelwch ffiniol.
Fe fydd Amber Rudd yn cwrdd â Gweinidog Mewnol Llywodraeth Ffrainc, Bernard Cazeneuve, yn sgil pryderon cynyddol y gall Ffrainc roi’r gorau i gytundeb lle mae swyddogion Prydain yn gwirio mewnfudwyr yn Calais, a rhybudd y gall arwain at anfon gwersyll ffoaduriaid y ‘Jyngl’ i Dover.
Mae’n dilyn rhybudd gan nifer o wleidyddion yn Ffrainc y gallai’r wlad ddod a’r cytundeb i ben yn Calais oni bai bod newidiadau radical yn cael eu gwneud.
Mae Xavier Bertrand, llywydd rhanbarth Hauts-de-France Nord Pas De Calais-Picardie, sy’n cynnwys Calais, wedi dweud wrth raglen Today ar BBC Radio 4, ei fod eisiau “system newydd” ar gyfer ceiswyr lloches sy’n ceisio dod i Brydain o Ffrainc.
Meddai: “Os nad yw Llywodraeth Prydain eisiau agor y drafodaeth yma, yna fe fyddwn ni’n dweud wrthoch chi bod Cytundeb Touquet ar ben.”
Drwgdeimlad
O dan y cytundeb, mae swyddogion mewnfudo Prydain yn gwirio pasborts yn Calais ac mae swyddogion Ffrainc yn gwneud yr un peth yn Dover.
Ond mae’r gwersyll i ffoaduriaid yn Calais, lle mae miloedd yn byw mewn amodau gwael ac sy’n ceisio croesi’r Sianel ar loriau sy’n dod i Brydain, wedi achosi drwgdeimlad yn Ffrainc.
Mae Xavier Bertrand am weld cytundeb newydd lle mae pobl sy’n ceisio lloches yn y DU yn cael gwneud hynny mewn “safleoedd arbennig” (hotspots) yn Ffrainc. Fe fydd y rhai sy’n methu yn eu cais yn cael eu hanfon yn ôl i’w gwledydd eu hunain.
O dan y drefn bresennol mae’n rhaid i ffoaduriaid gofrestru yn y wlad Ewropeaidd gyntaf lle maen nhw’n cyrraedd, a’r wlad honno sydd fel arfer yn gyfrifol am eu cais am loches.
‘Gwneud y sefyllfa’n waeth’
Ond mae Syr Peter Ricketts, cyn-lysgennad Prydain ym Mharis, yn dadlau y byddai creu “safleoedd arbennig” mewn perygl o ddenu miloedd yn fwy o ffoaduriaid i Ffrainc gan roi rhagor o bwysau ar y system, a gwneud y sefyllfa yn Calais yn waeth.
Mae Nicolas Sarkozy, cyn-Arlywydd Ffrainc, sy’n bwriadu sefyll yn y ras am yr arweinyddiaeth unwaith eto’r flwyddyn nesaf, wedi awgrymu agor canolfan ym Mhrydain i ddelio gyda cheiswyr lloches.
Yn ôl llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref ni fydd y cytundeb yn cael ei drafod yn y cyfarfod rhwng Amber Rudd a Bernard Cazeneuve ond mae disgwyl i’r ddau drafod “nifer o faterion yn ymwneud a diogelwch.”