Mae'r AS Keith Vaz yn rhybuddio nad yw ffiniau Prydain yn ddiogel (Llun: PA)
Mae ffigurau newydd yn dangos bod  dros 27,000 o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ddod i’r DU yn anghyfreithlon dros y tair blynedd ddiwethaf

Daw’r ffigurau diweddaraf drwy law’r BBC yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth i heddluoedd Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Yng Nghymru, cafodd 840 o bobl eu harestio ar amheuaeth o ddod i’r wlad yn anghyfreithlon dros y tair blynedd ddiwethaf. O fewn ardal Heddlu’r De y cafodd y nifer fwyaf o bobol eu harestio, sef bron 572.

Heddlu Gwent oedd wedi gweld y cynnydd mwyaf gyda 184 yn cael eu harestio rhwng 2013 a 2015, cynnydd o 73%.

Yn ardal Heddlu Dyfed Powys cafodd 84 o bobl eu harestio – cynnydd o 14% dros y tair blynedd. Nid oedd Heddlu’r Gogledd wedi darparu ymateb llawn.

‘Nid yw ffiniau Prydain yn ddiogel’

Mae’r ffigurau wedi arwain at ymateb chwyn gan gadeirydd y Pwyllgor Dethol dros Faterion Cartref, Keith Vaz o’r Blaid Lafur, sydd wedi rhybuddio nad yw ffiniau Prydain yn ddiogel.

Yn ôl y ffigurau, cynyddodd nifer y bobol sy’n cael eu harestio am ddod i’r wlad yn anghyfreithlon o 7,700 yn 2013 i 9,600 yn 2015, wrth i argyfwng y ffoaduriaid gyrraedd ei anterth.

Dros y tair blynedd ddiwethaf, sy’n cynnwys chwarter cyntaf eleni, cyfanswm y bobol a gafodd eu harestio oedd 27,800.

Cuddio mewn lorïau

Dyw’r ffigurau ddim yn cynnwys y sawl a gafodd eu cadw mewn porthladdoedd neu feysydd awyr, na’r sawl a gafodd eu harestio am aros yn y DU ar ôl i’w fisa ddod i ben.

Cafodd llawer o’r bobol a gafodd eu harestio eu stopio mewn gorsafoedd lorïau a gwasanaethau traffyrdd ar ôl dod i’r wlad drwy guddio mewn lorïau.

Dywedodd yr AS Keith Vaz wrth y BBC fod y ffigurau’n dangos bod y “broblem yn waeth na’r hyn oeddem yn rhagweld” a bod ei bwyllgor yn “disgwyl gweithredu ar frys” gan Lywodraeth Prydain.

Dywedodd y Swyddfa Gartref y byddai’n cymryd camau i anfon pobl o’r wlad os nad oedd ganddynt yr hawl i aros yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd llefarydd fod y Swyddfa’n “ymrwymedig i ddod o hyd i ateb hir dymor i’r broblem o fewnfudo anghyfreithlon.”