Twnel y Sianel, Calais (llun: PA)
Bydd yr Ysgrifennydd Cartref yn teithio i Paris i gyfarfod â Gweinidog Mewnol Ffrainc i drafod dyfodol trefniadau diogelwch rhwng y ddwy wlad.

Daw hyn yn sgil ofnau cynyddol y bydd Ffrainc yn rhoi’r gorau i’r drefn o swyddogion Prydain yn gwirio mewnfudwyr yn Calais – newid a fyddai’n debygol o anfon gwersyll ffoaduriaid y ‘Jyngl’ i Dover.

Cyfarfod Amber Rudd â Bernard Cazeneuve fydd ei hymweliad tramor swyddogol cyntaf ers cychwyn yn ei swydd.

Mae’r cyn-arlywydd Nicolas Sarkozy, sy’n ceisio enwebiaeth ar gyfer ras arlywyddiaeth y wlad y flwyddyn nesaf, wedi galw am agor canolfan ym Mhrydain i ymdrin â cheiswyr lloches.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref y bydd y ddau weinidog “yn trafod amrywiaeth helaeth o faterion yn ymwneud â diogelwch”.

“Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’n gilydd i amddiffyn y ffin yn Calais a chynnal y drefn bresennol,” meddai’r llefarydd.

“Mae Llywodraeth Ffrainc wedi ei wneud hi’n glir na fyddai cael gwared ar reolaeth swyddogion Prydain yn Calais yn rhywbeth a fyddai er budd Ffrainc.

“Credwn yn gryf yn egwyddor Rheoliad Dulyn y dylai’r rheini sydd angen amddiffyniad geisio lloches yn y wlad ddiogel gyntaf y maen nhw’n ei chyrraedd.”