Jeremy Corbyn (llun: PA)
Mae Jeremy Corbyn, wedi addo y bydd Llafur yn brwydro dros “Brydain amrywiol ac unedig” os caiff ei ailethol yn arweinydd.

Mae hefyd wedi lansio ymgynghoriad newydd ar fynd i’r afael â cham-wahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb hiliol, a fydd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ledled Prydain ac ar-lein.

“Ym Mhrydain, mae troseddau casineb yn codi,” meddai. “Mae mwy na hanner yr holl bobl ddu ifanc yn ddi-waith, ac mae pobl ddu 37 gwaith yn fwy tebygol o gael eu stopio a’u chwilio gan yr heddlu.

“Rhaid i Lafur fod yn blaid sy’n ymladd dros gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig – a Phrydain amrywiol ac unedig.

“I adeiladu cymeithas sy’n gweithio i bawb, byddwn yn rhoi’r gorau i bolisïau llymder ac yn buddsoddi £500 biliwn mewn swyddi, seilwaith a gwasanaethau cyhoeddus fel rhan o’n cynllun i adeiladu a thrawsnewid Prydain.”