Ystafell reoli safle cynhyrchu trydan y Shetland Tidal Array (llun o wefan Nova Innovation)
Mae cwmni o’r Alban sy’n defnyddio dull arloesol o gynhyrchu trydan o rym y llanw ger Ynysoedd Shetland wedi cychwyn gwerthu trydan i’r grid.

Dywed cwmni Nova Innovation fod hyn yn gam pwysig ymlaen wrth ddefnyddio’r llanw fel ffynhonnell hirdymor a dibynadwy o ynni adnewyddadwy.

Cafodd y tyrbin cyntaf y Shetland Tidal Array ei osod ym mis Mawrth, a’r ail y mis yma, gyda’r bwriad maes o law o osod nifer mawr o dyrbinau yn gweithio gyda’i gilydd mewn rhes.

“Ni yw’r cwmni cyntaf yn y byd i ddefnyddio rhes o dyrbinau fel hyn,” meddai Simon Forrest, rheolwr gyfarwyddwr Nova Innovation.

Mae llywodraeth yr Alban wedi ymrwymo y bydd yr Alban yn cynhyrchu ei holl drydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030.