(llun o wefan United Airlines)
Cafodd dau beilot eu harestio ar amheuaeth eu bod o dan ddylanwad alcohol wrth iddyn nhw baratoi i hedfan awyren dros yr Iwerydd o’r Alban i America.

Yn ôl adroddiadau, roedd pryderon am gyflwr y ddau beilot cyn cychwyn y daith awyren United Airlines UA162 o Glasgow i Newark, New Jersey, fore ddoe.

Dywed yr heddlu i’r ddau ddyn, 35 a 45 oed, gael eu harestio a’u cadw yn y ddalfa mewn cysylltiad â throseddau honedig o dan Adran 93 o Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003.

Gadawodd yr awyren gyda chriw newydd neithiwr.

Mae disgwyl i’r dynion ymddangos gerbron Llys Sheriff Paisley yfory.