(llun: PA)
Mae eiddo yn well buddsoddiad ar gyfer ymddeoliad nag yw pensiwn, yn ôl prif economegydd Banc Lloegr.
Dywed Andy Haldane ei fod yn berchen ar ddau gartref – un yn Surrey a thŷ gwyliau ar arfordir Caint.
“Pensiwn ddylai fod y ffordd orau o drefnu ar gyfer ymddeoliad, ond mae bron yn sicr mai eiddo yw’r buddsoddiad gorau mewn gwirionedd,” meddai.
“Cyhyd ag nad ydym yn codi digon o dai yn y wlad yma, byddwn yn dal i weld prisiau tai yn codi’n barhaus.”
Mae ei sylwadau wedi cael ei feirniadu gan y Farwnes Altmann, y cyn-weinidog pensiynau, sy’n dweud nad yw ei draed ar y ddaear a’i fod yn anghyfrifol wrth awgrymu y dylai pobl ddibynnu ar eiddo yn lle ar bensiynau.