Cafodd rhaglenni ITV eu diffodd o’r teledu am awr y bore yma fel rhan o ymgyrch ‘I Am Team GB’ i annog y cyhoedd i ymarfer corff yn lle gwylio’r teledu.

Ymateb cymysg a gafodd yr her gyda rhai gwylwyr yn dweud iddynt fod yn rhedeg, tra bod eraill yn dweud iddyn nhw aros yn eu hunfan yn chwilio am sianeli eraill.

Dywedodd eraill mai’r sgrin wag oedd y peth gorau iddyn nhw eu gweld ar sianelau ITV. “Dw i’n fwy tebygol o fynd allan i redeg pan fydd ITV yn darlledu rhaglenni,” meddai un.

Dros y penwythnos, mae cannoedd o ganolfannau a chlybiau chwaraeon yn agor eu drysau am ddim i’r cyhoedd fel rhan o ymgyrch ar y cyd rhwng y Loteri Cenedlaethol ac ITV.

Mae amryw o fabolgampwyr buddugol Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Rio wedi bod yn chwarae rhan i gefnogi’r digwyddiad.