Gloyn byw mawr glas yng ngwarchodfa natur Daneway Banks yn Sir Gaerloyw (llun: David Simcox/The Wildlife Trusts/Gwifren PAP
Mae gloyn byw a ddiflannodd yn llwyr o Brydain ar un adeg yn mynd o nerth i nerth erbyn hyn, yn ôl cadwraethwyr.

Mae dros 10,000 o’r gloyn byw mawr glas wedi cael eu gweld yn siroedd Caerloyw a Gwlad yr Haf eleni – mwy nag ar unrhyw adeg yn y 80 mlynedd diwethaf.

Mae dros 250,000 o wyau’r gloyn byw wedi cael eu dodwy mewn dwy warchodfa yno yr haf yma.

Cafodd y gloyn byw ei ailgyflwyno ym Mhrydain yn 1984 ar ôl cael ei gyhoeddi fel rhywogaeth a oedd wedi darfod o’r tir bum mlynedd ynghynt.

“Mae llwyddiant y prosiect yma’n brawf i’r hyn y gall cydweithio rhwng cadwraethwyr, gwyddonwyr a gwirfoddolwyr ei gyflawni,” meddai’r Athro Jeremy Thomas, cadeirydd Cyd-bwyllgor Adfer y Gloyn Byw Mawr Glas.

“Mae’n dangos y gallwn wyrdroi dirywiad rhywogaethau mewn perygl unwaith yr ydym yn deall y ffactorau allweddol.”