Y Prif Weinidog Theresa May. Llun; Hannah McKay/Gwifren Wire
Mae amheuon fod y Prif Weinidog Theresa May yn bwriadu gwrthod rhoi cyfle i Aelodau Seneddol bleidleisio ar gychwyn y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae hi’n wynebu her gyfreithol ar hyn o bryd ar y cwestiwn a all weithredu Erthygl 50 o Gytundeb Lisbon heb gymeradwyaeth y Senedd.

Yn ôl adroddiadau yn y Daily Telegraph heddiw, fodd bynnag, mae cyfreithwyr y llywodraeth wedi dweud wrthi nad oes angen iddi gynnal pleidlais seneddol cyn cychwyn y broses.

Mae’r papur yn dyfynnu ffynhonnell o Downing Street sy’n dweud bod Theresa May “wedi ymrwymo i weithredu’r dyfarniad a roddodd y cyhoedd”.

Uchel Lys

Bydd yr her gyfreithiol i rwystro’r Llywodraeth rhag gweithredu Erthygl 50 heb awdurdodaeth y Senedd yn cael ei chlywed yn yr Uchel Lys ym mis Hydref.

Mae disgwyl i gyfreithwyr y Llywodraeth ddadlau y gall y Prif Weinidog ddefnyddio’r fraint frenhinol i gychwyn y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn y cyfamser, mae Owen Smith, sy’n ceisio disodli Jeremy Corbyn fel arweinydd y Blaid Lafur, wedi addo ceisio rhwystro cychwyn y trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd hyd nes bydd y Llywodraeth yn addo ail refferendwm neu’n galw etholiad cyffredinol i gymeradwyo cytundeb terfynol Brexit.