Mae adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig wedi mynegi pryder ynghylch y cynnydd mewn troseddau casineb hiliol mewn rhannau o Brydain ers y bleidlais Brexit.

Yn ôl yr adroddiad, roedd cefnogwyr Brexit yn ymgyrch y refferendwm yn llawn rhethreg gwrth-fewnfudwyr a senophobaidd, a llawer o wleidyddion wedi creu a dyfnhau rhagfarnhau.

Mae’r gwleidyddion hyn, meddai’r adroddiad gan y Pwyllgor Dileu Gwahaniaethu Hiliol, “wedi grymuso unigolion i gyflawni gweithredoedd o fygythiad ac atgasedd tuag at gymunedau ethnig neu ethno-grefyddol a phobl sy’n weledol wahanol.”

Mae’r adroddiad hefyd yn beirniadu bwriad Llywodraeth Prydain i ddileu’r Ddeddf Hawliau Dynol gan ddweud y gall arwain at wanhau amddiffyniad o hawliau dynol.

Rhannu’r pryder

Dywed David Isaac, cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, fod y Comisiwn yn rhannu pryderon difrifol y Cenhedloedd Unedig am y cynnydd mewn troseddau o’r fath.

“Mae pryderon fod natur chwerw dadl y refferendwm wedi gwaethygu rhaniadau yn y gymdeithas ym Mhrydain, a bod hyn wedi cael ei ddefnyddio gan leiafrif fel modd o gyfreithloni casineb hiliol,” meddai.

“Mae angen i bleidiau gwleidyddol ddod at ei gilydd a dangos arweiniad, gan weithio gyda’r heddlu.”