David Duckenfield - aelod amlwg o'r Seiri Rhyddion (Llun: PA)
Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu wedi cadarnhau eu bod yn holi am rôl y Seiri Rhyddion yn y cuddio gwybodaeth a ddigwyddodd wedi trychineb Hillsborough yn 1989.

Maen nhw wedi cysylltu gydag Uwch Gyfrinfa Lloegr – sy’n rheoli’r mudiad – er mwyn cael gwybod am enwau pobol a fu mewn cyfarfodydd o’r Seiri.

Mae’r Comisiwn yn ymateb i amheuon perthnasau rhai o’r 96 o bobol a laddwyd yn y trychineb yn y maes pêl-droed – hynny ar ôl i un plismon roi tystiolaeth i Ymchwiliad Hillsborough yn sôn am gyfarfod pwysig o’r heddlu pan oedd y rhan fwya’ yno yn Seiri Rhyddion.

Roedd y swyddog a oedd yn gyfrifol am yr heddlu yn y maes adeg y trychineb, David Duckenfield, yn aelod amlwg o’r Seiri.

Mae’r Comisiwn yn ymchwilio i honiadau o wyrdroi cyfiawnder a chuddio gwybodaeth ar ôl i’r Ymchwiliad benderfynu bod y cefnogwyr pêl-droed o Lerpwl wedi cael eu lladd yn anghyfreithlon.