Larne, Gogledd Iwerddon (Wilson Adams CCA2.0)
Mae aelod o lluoedd arfog Prydain yn parhau i gael ei holi gan dditectifs sy’n ymchwilio i honiadau o droseddau brawychol yng Ngogledd Iwerddon.

Cafodd Ciaran Maxwell, 30, o Larne, Co Antrim, ei arestio yng Ngwlad yr Haf ddydd Mercher. Roedd  ei arestio yn gysylltiedig â darganfod dau lwyth o arfau.

Mae’r heddlu yn parhau a’i ymchwiliad yng Ngwlad yr Haf heddiw.

Chwilio yn Lloegr a Gogledd Iwerddon

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Antony Hart o Heddlu Dyfnaint a Chernyw Heddlu bod disgwyl i’r chwilio mewn adeiladau a choedwig gyfagos barhau drwy gydol y penwythnos.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae swyddogion hefyd chwilio yn Larne, ger y coedwigoedd ble daethpwyd o hyd i’r arfau yn gynharach eleni.

Mae Ciaran Maxwell yn cael ei gadw ar amheuaeth o baratoi gweithredoedd brawychol.

Ym mis Mai eleni, cododd gwasanaethau cudd-wybodaeth yn y Deyrnas Unedig lefel bygythiad ymosodiad gan wrthryfelwyr Gweriniaethol ym Mhrydain Fawr o gymedrol i sylweddol.

Ers 2009, mae dau filwr, ddau heddwas a dau swyddog carchar wedi eu lladd yng Ngogledd Iwerddon.