Mae tri dyn wedi marw ar ôl mynd i drafferthion yn y môr ar draeth  Camber Sands ger Rye, yn nwyrain Sussex ar un o ddiwrnodau poetha’r flwyddyn.

Ac yn ddiweddarach heno fe gadarnhawyd bod dau gorff arall wedi’u darganfod ar y traeth gan aelod o’r cyhoedd tua 8yh. Mae dau fad achub a hofrennydd hefyd yn  chwilio am un person arall sydd ar goll.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi adroddiadau bod tri dyn angen triniaeth frys ar draeth  Camber Sands tua 2.15yp prynhawn dydd Mercher.

Roedd gwylwyr y glannau wedi derbyn adroddiadau bod un person yn y môr. Ar ôl iddyn nhw gyrraedd cafodd person arall ei weld mewn trafferthion yn y dŵr am 2.20yp, a chwarter awr yn ddiweddarach, cafodd trydydd person ei achub.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Sussex bod y tri dyn wedi marw er gwaetha’r ymdrechion i’w hachub.

Fe ddigwyddodd y drasiedi tra bod y traeth yn llawn o bobl. Mae pobl wedi cael eu hannog i gadw allan o’r môr tra bod ymchwiliadau’n parhau.

Dywed yr heddlu bod y digwyddiad yn un “trasig” ac yn brofiad “trawmatig” i’r rhai oedd ar y traeth ar y pryd. Maen nhw’n ceisio adnabod y tri dyn ar hyn o bryd.

Dyma’r ail ddigwyddiad angheuol yn Camber Sands yn ddiweddar.

Fis diwethaf bu farw Gustavo Silva Da Cruz, 19, o Frasil ar ôl mynd i drafferthion wrth nofio yn y môr yno.