Mia Ayliffe-chung Llun: Amy Browne/PA
Mae dynes 21 oed wedi marw ac mae dyn 30 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad gan eithafwr posib yn Awstralia.
Roedd y ddau wedi bod yn teithio yn Queensland pan gawson nhw eu trywanu gan ddyn a oedd, yn ôl adroddiadau, yn gweiddi ‘Allahu Akbar’ – sy’n golygu “mawredd Duw” yn Arabaidd – yn ystod y digwyddiad.
Mae’r ddynes wedi cael ei henwi’n lleol fel Mia Ayliffe-Chung, o Swydd Derby.
Mae teulu’r ddau wedi cael gwybod ac maen nhw’n derbyn cymorth consylaidd.
Dydy hi ddim yn glir eto a oedd y ddau yn adnabod ei gilydd, ond roedden nhw’n aros yn yr un llety.
Yn ôl yr heddlu, roedd hyd at 30 o dystion i’r ymosodiad nos Fawrth, wrth i ddyn lleol 46 oed hefyd gael ei anafu, ond nid yn ddifrifol.
Cafodd ci ei ladd yn yr ymosodiad hefyd.
Mae dyn 29 oed o Ffrainc wedi cael ei arestio, ac wedi’i gludo i’r ysbyty â mân anafiadau.
Mae lle i gredu ei fod e wedi bod yn Awstralia ar fisa dros dro ers mis Mawrth, ond nad oes ganddo fe gyswllt â’r ardal fel arall.
Ar hyn o bryd, mae’r heddlu’n ymchwilio i’r digwyddiad ac yn ceisio darganfod beth oedd y cymhelliad y tu ol i’r ymosodiad.