Jeremy Corbyn Llun: PA
Mae cwmni Virgin Trains wedi herio honiadau’r arweinydd Llafur Jeremy Corbyn ar ôl iddo ddweud ei fod wedi gorfod eistedd ar y llawr gan nad oedd seddi gwag ar gael ar un o’u trenau.

Ond mae lluniau camerâu diogelwch wedi cael eu rhyddhau yn awgrymu bod Jeremy Corbyn wedi cerdded heibio i seddi gwag cyn iddo gael ei ffilmio yn eistedd ar y llawr yn cwyno am “gerbydau llawn dop.”

Roedd yr arweinydd Llafur yn teithio ar drên Virgin o Lundain i Newcastle ar 11 Awst.

Daeth fideo i’r amlwg yr wythnos diwethaf a oedd yn dangos Jeremy Corbyn yn eistedd ar y llawr yn darllen papur newydd. Meddai yn y fideo: “Mae hon yn broblem y mae llawer o deithwyr yn ei wynebu bob dydd.”

Aeth ymlaen yn y fideo i alw am ail-wladoli’r rheilffyrdd.

Ond mae’r lluniau a ryddhawyd gan Virgin Trains yn awgrymu bod Jeremy Corbyn a’i dîm wedi cerdded heibio seddi gwag cyn i’r ffilmio ddechrau.

Mae’r lluniau hefyd yn dangos Jeremy Corbyn yn eistedd i lawr mewn sedd wag fwy na dwy awr cyn cyrraedd Newcastle.

Dywedodd llefarydd ar ran Virgin: “Mae’n rhaid i ni ddadlau gyda’r honiad nad oedd Jeremy Corbyn yn gallu eistedd ar sedd wag yn ystod ei daith ar y gwasanaeth, gan nad oedd hyn yn amlwg yn gywir.

“Byddem yn annog Jeremy Corbyn i archebu ymlaen llaw y tro nesaf mae’n bwriadu teithio gyda ni – er mwyn gallu archebu sedd ac i sicrhau ei fod yn derbyn ein prisiau isaf – ac edrychwn ymlaen at ei groesawu eto.”

Roedd Jeremy Corbyn ar ei ffordd i Gateshead ar y pryd ar gyfer dadl gydag AS Pontypridd Owen Smith, yr unig ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur.

‘Anonest’

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol undeb y gweithwyr trenau TSSA, Manuel Cortes: “Mae Virgin yn anonest. Nid yw eu lluniau teledu cylch cyfyng yn dangos seddi gwag, maen nhw’n dangos seddi sydd wedi eu marcio’n glir fel rhai sydd wedi’u harchebu ac felly, ddim ar gael…

“Mae Jeremy Corbyn wedi tynnu sylw at y trallod teithio dyddiol sy’n golygu bod pobl yn eistedd ar loriau trenau bob dydd oherwydd gorlenwi neu oherwydd bod seddi gwag ddim ar gael.”