Mae milwr wedi marw wrth gymryd rhan mewn ymarferiad saethu gyda’r nos, meddai Gweinidog  y Lluoedd Arfog.

Dywedodd Mike Penning bod y milwr wedi marw yn safle hyfforddi Otterburn yn Northumberland.

Roedd y milwr yn gwasanaethu gyda Chatrawd Frenhinol yr Alban, ac mae’r heddlu a’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn cynnal ymchwiliad.

“Mae ein meddyliau gyda theulu’r milwr, ffrindiau a chyd-weithwyr yn ystod y cyfnod anodd yma,” dywedodd Mike Penning.

“Diogelwch ein milwyr yw ein blaenoriaeth ac er nad yw marwolaethau yn ystod ymarferiadau yn digwydd yn aml, mae unrhyw farwolaeth yn drasiedi.”

Yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn roedd y milwr fu farw yn ddyn a chafodd ei saethu yn ystod ymarferiad am 11.15yh nos Lun.

Roedd wedi cael anaf difrifol i’w ben a chafodd y gwasanaethau brys eu galw ond  bu farw yn y fan a’r lle.

Mae ei deulu wedi cael gwybod ond nid yw ei enw wedi cael ei gyhoeddi hyd yn hyn.