Mae Heddlu Cleveland wedi bod yn holi dyn 73 oed ar amheuaeth o lofruddio dynes 42 a gafwyd yn farw mewn ty.

Fe gafodd swyddogion eu galw i Hemlington, Middlesbrough, tua 7yh nos Wener, yn dilyn adroddiadau fod y wraig ddim yn ymateb i neb na dim. Yn ôl yr heddlu, mae prawf post mortem yn dangos i’r wraig farw o ganlyniad i anaf ar ei phen.

Yn y cyfamser, mae’r pensiynwr wedi’i ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau’r heddlu yn parhau.

Mae gweithwyr fforensig yn dal i weithio ar y safle gyda ditectifs.