Mae dyn wedi marw ar ôl cael ei sgubo allan i’r môr tra’r oedd ar y traeth gyda’i deulu.

Roedd y dyn gyda dynes a phlentyn dwyflwydd oed pan aethon nhw i drafferthion ar draeth Fistral ger Newquay ar arfordir gogleddol Cernyw tua 5.20yp ddoe.

Fe lwyddodd swyddogion achub bywyd i dynnu’r tri o’r môr, ond fe fu’r dyn farw yn ddiweddarach yn yr ysbyty.