Mae MeteoGroup wedi disodli’r Swyddfa Dywydd fel y rhai fydd yn darparu rhagolygon y tywydd i’r BBC.

Cadarnhaodd y Swyddfa Dywydd yn Awst 2015 ei fod wedi colli’r cytundeb gan nodi diwedd mwy na 90 mlynedd o bartneriaeth rhwng y Swyddfa Dywydd a’r gorfforaeth.

Bydd cytundeb MeteoGroup, rhagolygodd tywydd preifat mwya’ gwledydd Prydain sydd â swyddfeydd mewn 17 o wledydd ledled y byd, yn dechrau yn ystod gwanwyn 2017.

Bydd y cwmni’n darparu rhagolygon a graffeg ar gyfer gwasanaethau tywydd ar draws llwyfannau BBC ledled y byd, gan gynnwys ar y teledu, radio, y we a ffonau symudol.

Dywedodd cadeirydd MeteoGroup Richard Sadler ei bod hi’n “anrhydedd” cael eu dewis i fod yn “bartner gyda darlledwr mwyaf blaenllaw’r byd.”

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cael ei ddefnyddio gan y BBC i ddarparu rhagolygon ers i’r bwletin tywydd radio cyntaf ei darlledu ar 14 Tachwedd, 1922.