Roedd diweithdra yn parhau i ostwng yn y cyfnod yn arwain at y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd ac roedd y nifer uchaf erioed o bobl mewn gwaith yn y tri mis hyd at fis Mehefin.

Yng Nghymru roedd 65,000 yn ddi-waith – 9,000 yn llai na’r chwarter blaenorol. Ers Mehefin 2015, mae 17,000 fwy o bobl mewn gwaith sy’n agos at ei lefel uchaf erioed.

Ledled gwledydd Prydain, roedd cyfradd cyflogaeth yn 74.5% gyda 31.8 miliwn o bobl mewn gwaith – 172,000 yn fwy na’r chwarter blaenorol.

Mae cyfanswm o 1.63 o bobl yn ddi-waith – gostyngiad o 52,000 ers y chwarter blaenorol a 207,000 yn llai o’i gymharu â blwyddyn yn ôl.

Mae’r cyfanswm y pobl di-waith bellach ar ei isaf ers wyth mlynedd tra bod y cyfradd diweithdra ar ei isaf ers haf 2005 yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae nifer y swyddi gwag i lawr 7,000 ac mae cyfartaledd cyflogau wedi codi 2.4% yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin.

Dywedodd ystadegydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol David Freeman mai ychydig iawn o’r data sy’n cael ei gyhoeddi heddiw sy’n cynnwys y cyfnod ers refferendwm yr UE a bydd canlyniadau’r chwarter nesa’n rhoi mwy o syniad o wir effaith Brexit.

“Amodau economaidd cywir”

Wrth ymateb i’r ffigyrau, dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones bod y farchnad lafur yng Nghymru’n parhau i “berfformio’n gryf” gyda chyfradd di-waith o 4.3% sy’n llai na’r cyfartaledd ar draws y Deyrnas Unedig.

Meddai Carwyn Jones: “Dros y 12 mis diwethaf, mae Cymru wedi gweld mwy o ostyngiad mewn diweithdra nag mewn unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig. Rydym ar y blaen i Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon gyda diweithdra yn gostwng fwy na dwywaith cyfartaledd y Deyrnas Unedig.

“Fel llywodraeth sydd o blaid busnes rydym yn parhau i weithio’n galed i gynnal yr amodau economaidd cywir i helpu i greu a diogelu swyddi ledled Cymru.

“Beth bynnag fydd yn digwydd o’n cwmpas, byddwn yn parhau i ddarparu amgylchedd gref, sefydlog a diogel ar gyfer busnes a menter.”