Mae dyn 20 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o ariannu mudiadau terfysgol yn Syria.

Fe gafodd y dyn ei ddal tua 7yb ddoe yn ne Llundain, ac mae wedi’i ryddhau ar fechnïaeth tan fis Hydref, yn ôl Scotland Yard.

Mae swyddogion o Heddlu’r Met wedi chwilio’i gartre’ a’i gar fel rhan o’u hymchwiliad.

Fe gafodd dau ddyn arall, y ddau’n 24 oed, eu harestio ym mis Mai eleni fel rhan o’r un ymchwiliad.