Mae dyn yn ei 50au wedi marw ar ôl cael ei daro gan dram yn Nottingham.

Mae Heddlu Swydd Nottingham wedi cadarnhau i’r gwrthdrawiad ddigwydd tua 11yh nos Lun, yn ardal Basford .

Fe gafodd yr heddlu eu galw tua 11.10yh er mwyn cynorthwyo criwiau ambiwlans, yn dilyn adroddiadau fod dyn wedi bod mewn gwrthdrawiad â thram.

Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i amgylchiadau’r ddamwain.