Mae’r awdurdodau yn Iran wedi arestio dinesydd Iranaidd-Prydeinig ac yn honni fod ganddo gysylltiadau â gwasanaeth cudd-wybodaeth y Deyrnas Unedig.
Mae asiantaeth newyddion gwladwriaeth Iran yn dweud fod y dyn sydd wedi’i arestio wedi bod “yn weithgar mewn maes economaidd sy’n ymwneud â Iran”.
Yn ôl yr asiantaeth newyddion cafodd y dyn ei arestio yr wythnos ddiwetha’.
Nid yw Llywodraeth Prydain wedi gwneud sylw ar y mater eto.
Ers cytundeb niwclear Iran gyda gwledydd pwerus y byd y llynedd, mae Iran wedi ei dal nifer o wladolion deuol sy’n ymweld â’r wlad gan eu cyhuddo o amrywiaeth o honiadau sy’n gysylltiedig â diogelwch.
Nid yw Iran yn cydnabod cenedligrwydd deuol sy’n golygu nad yw’r rhai sy’n cael eu harestio a’u dal na allant gael cymorth consylaidd.